Cymroddyfodoliaeth

Rhodri ap Dyfrig
8 min readNov 24, 2014

Wrth chwilota am ddelweddau ar gyfer cyflwyniad mi ddes ar draws y llun isod mewn cyfieithiad Cymraeg o’r llyfr Usborne Guide To Computers

Arweiniodd hyn at sgwrs gyda Ifan Morgan Jones a’r sylw hwn:

Ac er bod chwinc bach ar ddiwedd trydariad Ifan yn dynodi nad oedd yn gyfangwbl o ddifri, doeddwn i’n methu’n glir a chadw caead ar fy chwilfrydedd dros y syniad. A diolch i sgwrs bellach gyda Carl Morris, ces olwg ar waith Kodwo Eshun sydd wedi fy annog i balu ymhellach.

Beth ydi gwreiddiau afrofuturism?

Oes ffasiwn beth â celtofuturism?

Beth yw’r termau hyn yn Gymraeg?

Oes unrhyw fath o estheteg newydd (yn hytrach na thraddodiadol), unedig i’w weld ar draws diwylliannau Celtaidd?

Pwy, os unrhywun o gwbl, sy’n dychmygu dyfodolau newydd gyda slant Gymraeg? Neu slant Lydaweg? Neu slant Wyddeleg?

Os nad ydi celtoddyfodoliaeth yn dal dŵr, oes yna felly dystiolaeth, arteffactau claddedig, neu themâu amlwg y gellir eu huno at ei gilydd dan gysyniad o cambrofuturism, neu gymroddyfodoliaeth?

Beth yw affroddyfodoliaeth i ddechrau?

Felly beth yw affroddyfodoliaeth ac ellir trosglwyddo damcaniaeth yr estheteg hwn i ddiwylliant Cymru neu ddiwylliant Cymraeg?

Mae Ytasha Womack yn disgrifio Afrofuturism fel:

“the intersection between black culture, technology, liberation and the imagination, with some mysticism thrown in, too. It can be expressed through film; it can be expressed through art, literature and music. It’s a way of bridging the future and the past and essentially helping to reimagine the experience of people of colour.”

Oes yna gelfyddyd Gymraeg sy’n archwilio’r un syniadau o chwant am ryddid, dihangfa sefyllfaoedd gormesol ac arall-rwydd drwy gelfyddyd dyfodolaethol a meddylfryd dechnolegol flaengar. Oes na’r un math o blethiad cyfriniaeth gyda gwyddonias yn y ffordd mae Janelle Monae yn uno mytholeg Eifftaidd/Nubaidd, cyborgs Metropolis (fersiynau Fritz Lang a Rintaro) a Blade Runner, a thwtsh o Stargate i asio mewn potes ôl-fodern?

Mae’r ffilm ddogfen The Last Angel of History gan John Akomfrah o 1996 yn archwilio’r cysyniad o affroddyfodoliaeth yn chwareus ac yn eang gyda chyfraniadau gan George Clinton, Carl Craig a llawer mwy.

http://vimeo.com/80634679

Yn ei draethawd Motion Capture mae Kodwo Eshun yn sôn am tecno yn Detroit a’r synthesis o agwedd arall ar ddiwylliant du yn America

“So Europe and whiteness generally take the place of the origin. And Black Americans are synthetic; the key in techno is literally to synthesize yourself into a new American alien.”

Gafael yn rhywbeth sy’n estron i dy ddiwylliant er mwyn dy alluogi i greu mutation unigryw o’r diwylliant hwnnw. Efallai i gymruddyfodoliaeth taw torri ffwrdd o draddodiad a chlostroffobia Cymreictod unffurf yw rhan o’r drive i greu bydoedd newydd, a’r rheswm pam mae technoleg yn rhan annatod o’r synthesis. Rhaid defnyddio pob dull newydd i dorri gwythien newydd o ddiwylliant, meddiannu’r dyfodol a dinistrio’r gorffennol.

I rai, mae hyn yn bwrpas ynddo’i hun — creu o’r newydd trwy’r amser er mwyn torri allan o atmosffêr Cymru i ofod(au) newydd. Ond i eraill mae’n ffordd o weithio o fewn y system i roi sylwebaeth ar bresennol Cymru a’r Gymraeg gyda rhyw fath o bellter. Y math o bellter sydd mor anodd ei gael mewn Cymru Fach. Fel dywed Gwenno yn ei thrac ‘Stwff’:

Pan fydda’i mhell o adre,

mae’r gwir i’w weld yn gliriach,

ellai ond ymddiheuro,

am deimlo rhwystredigaeth

Trwy wneud dy hun yn estron, weithiau mae’n dod yn haws gweld yn glir yr hyn sydd angen ei ddweud, a chael y rhyddid i ddweud hynny.

Pa mor addas yw addasu affroddyfodoliaeth i gyd-destun Cymraeg?

Mae llawer iawn o ddiwylliant Cymraeg a Chymreig wedi cael ei leoli a’i ddadansoddi yn ôl damcaniaeth ôl-drefedigaethol (gweler e.e. traethawd doethuriaeth Owain Llŷr ap Gareth, 2009). Sut ydyn ni’n diffinio’n hunain mewn gwrthwynebiad ac eraill, fel arall, yn arbennig felly yn arall i Loegr/Prydeindod a sut mae modd gweld diwylliant o safbwynt trefedigaethu.

Neu fel dywed Kirsti Bohata yn Postcolonialism Revisited :

There are countries whose early histories include conquest and colonization prior to the period traditionally addressed by postcolonialism, and whose subjugation or marginalization may indeed continue right through and beyond the eras of overseas mercantilism, colonization and imperialism. In these cases we find a long history of cultural assimilation and/or political co-option, yet also a persistent, self-defined sense of cultural difference and, later, of nationhood.

Mae rhai wastad yn amheus o osod brwydrau Cymry dros warchod iaith a diwylliant Cymraeg mewn cymhariaeth â phrofiadau’r diaspora Affricanaidd yn y Gorllewin (neu’r Black Atlantic fel mae Paul Gilroy yn ei alw) a’r frwydr dros hawliau sifil yn yr UDA. Mae’n amhosib cymharu’r trawma diwylliannol o gaethwasiaeth a hiliaeth gyda imperialaeth Seisnig, ond rhaid cydnabod bod anghyfiawnder ac anghyfartaledd yn rhan o hanes Cymru a’r frwydr dros gywiro’r anghyfiawnderau hynny’n rhan o gyd-ymdeimlad llawer iawn o Gymry â’r mudiad hawliau sifil Affro-Americanaidd yn y 60au.

Mae’r themâu o fod ar y tu allan, yn estron, yn ymylol mewn diwylliant Prydeinig (Eingl-Americanaidd?) di-hid yn gryf mewn celfyddyd Gymreig, a’n sicr wrth drafod yr iaith Gymraeg.

Wastod ar y tu fas :: Ethiopia Newydd :: Fydd y Chwyldro Ddim ar y Teledu Gyfaill :: Y Lleiafrifol

Felly o dderbyn rhai o’r paralelau, oes rheswm pam na ellir edrych ar ddefnydd Cymry o wyddonias a ffantasi trwy chwyddwydr affroddyfodoliaeth a gweld os yw’n adio fyny at rywbeth fel cymroddyfodoliaeth?

Dyma roi pryfociad felly. Ffwrdd â ni…

Cerddoriaeth

Malcolm Neon

O ble daeth Malcolm Neon? O’r gofod? Fasa waeth iddo fod wedi. Cymru newydd synthetig.

Data (1982)

Llwybr Llaethog

Mae’r enw deud eu bod nhw’n dod o tu hwnt i’r ddaear hwn, mae eu gwefan yn y gofod, mae nhw’n llywio llongau gofod heibio’r blaned sadwrn tra’n blastio dyb. Cymroddyfodolwyr

Mega-Tidy (2005)

Johnny R

His defunct record label, R-Bennig, was a situationist dismantling and reassembly of any preconceptions you might have about music-making. Generally, if no one else in the vicinity was doing it, then Johnny would give it a go. He fed off and reacted against his contemporaries’ relative conservatism. — Adam Walton

Super Furry Animals (+ Pete Fowler)

Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogochynygofod (in space)

Out Spaced

Gwenno / Peski / Cam o’r Tywyllwch

http://www.peski.co.uk/ https://soundcloud.com/cam-or-tywyllwch
http://peski.co.uk/cy/artist/305/gwenno

Estron / Electroneg / ayyb (Geraint Ffrancon)

http://www.recordiau.co.uk/estron-y-crack-cymraeg/
http://www.recordiau.co.uk/geraint-ffrancon-e1002/

Llenyddiaeth

Y Blaned Dirion — Islwyn Ffowc Elis

Llun o flog Gwyddonias

Y Dydd Olaf — Owain Owain

Llun o flog Gwyddonias

Pelydr Ll — Elwyn Ioan a Gareth Miles

Cadwgan y Llygoden o’r Lleuad — Elwyn Ioan

Celf

Hefin Jones — The Welsh Space Campaign

Delwedd gan Dan Burn-Forti ar gyfer Wired Magazine UK.

I aim to reveal that Wales has the capacity to explore space, and to show that off-world culturalisation can be achieved through a collective communitarian effort; as a way to allow the people involved to reconsider their role and skill in relation to these cosmic contexts. — Hefin Jones

A chynlluniau manwl ar gyfer anfon cadair eisteddfododol i’r gofod i gylchdro’r ddaear.

Y Welsh Space Agency

http://www.welshspaceagency.org/

Fideo WASA o’r Cymro cyntaf yn y gofod

[nodyn ochr…] Joe Tanner

A’r geiriau Cymraeg cyntaf i’w ynganu yn y gofod (mae’n debyg) oedd “Bore Da”

Ffilm a Theledu

Separado! — Gruff Rhys a Dyl Goch

Superted

Dim baner Cymru ar ei orsaf ofod, ond pwy arall wnaeth fwy i roi’r syniad bod eirth, gofodwyr (Sion a Sian ydy enwau dau beilot yn y stori Hela Cnau), dewines gu a phobol smotiog o blanedau eraill yn siarad Cymraeg yn gwbl naturiol? Tedigarlibwns!

Ymadawiad Arthur — Marc Evans

[dim delweddau na fideos ar gael]

Ffilm Marc Evans lle mae’n dychmygu Cymry o 2096 yn teithio nôl mewn amser i gyfodi’r Brenin Arthur i’w hachub (dwi ddim yn cofio achub rhag beth…), ond yn lle’n cipio’r chwaraewr rygbi Dai “Brenin” Arthur o’r cyfnod presennol.

Ardal 16 — Budgie Blue Baby Pink (Johnny R)

[dim delweddau na fideos ar gael]

Prosiect ffilmiau byr Johnny R lle eto roedd o’n gosod ei hun mewn rhyw fath o fydysawd paralel dystopaidd. Diflannodd heb unrhyw dras, fell llawer o waith Johnny.

Radio

Saunders Ffors Wych

Cyfres wyddonias gan Rolant Tomos am daith roced o’r enw Saunders Ffors Wych.

Y Blaned Las

Addasiad radio o’r nofel Y Blaned Dirion.

Theatr a Pherfformio

???

Diwylliant Rhyngrwyd

Maes-e / “Y Rhithfro”

Be arall ydi maes-e neu rithfro fel termau ond geiriau sy’n cyfleu pobl yn ymsefydlu mewn gofodau newydd arlein. Ai gwladychu ‘darn o dir’ i sefydlu Cymru newydd fel teithwyr y Mimosa oedd y syniad neu blannu baner ar y lleuad i ddweud ‘rydyn ni yma’. P’un bynnag, mae na dychymgu dyfodolaidd yn mynd mlaen yma.

Y Wladfa Newydd

http://www.culturecolony.com/

Beth amdani?

Yn amlwg dwi ddim hollol o ddifri am hyn, ond, ond…

Mae na rywbeth am yr uchod i gyd sef bod lot ohono ddim yn slic ac efo agwedd DIY a’u bod un ai yn estroniaid yn eu diwylliant eu hunain am wahanol resymau, neu o leia’n gweld eu hunain felly. Mae’r elfennau gwyddonias/ffantasi/dyfodolaidd/technoleg wedyn yn arf arall i roi siap ar eu creadigrwydd, i ffurfio gofod newydd ar gyfer creu, a dweud be ma nhw isio’i ddweud am bwy ydyn nhw ac am y byd.

Ychwanegiadau? Sylwadau? WTF?

Defnyddia’r hashnod #cymroddyfodol i roi sylw ar Twitter, neu glicia ar y + bach ar ochr lluniau/paragraffau uchod i roi sylw ar neu ychwanegu at ddarn penodol.

[Gol: Mae yna nawr flog sgraplyfr yn casglu enghreifftiau / syniadau cymruddyfodolaidd.]

--

--

Rhodri ap Dyfrig

Cymraeg digidol a dyfodol // Digital and future Welsh